Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (178)v5 |
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd (45 munud)
|
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio (45 munud)
|
3 Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (15 munud)
|
Cwestiwn Brys Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â chyflogau a phensiynau uwch swyddogion cynghorau yn sgîl adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru? |
Cynnig i atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a Rheol Sefydlog 11.16 er mwyn caniatáu i NNDM5427 gael eu hystyried (5 munud) NNDM5428 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM5427 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mercher, 5 Chwefror 2014. |
4 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar y Bil Plant a Theuluoedd mewn perthynas ag ysmygu mewn cerbydau preifat sy’n cludo person neu bersonau o dan 18 oed (30 munud) NDM5424 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Theuluoedd sy’n ymwneud â phrynu neu ymgais i brynu tybaco neu bapurau sigarét ar ran personau sydd o dan 18 oed a gwahardd gwerthu cynhyrchion nicotin i bersonau o dan 18 oed a throseddau, amddiffyniadau, cosbau a chamau gorfodi etc cysylltiedig i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Ionawr 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii). I weld copi o’r Bil ewch i: http://services.parliament.uk/bills/2013-14/childrenandfamilies.html [Saesneg yn unig]
|
5 Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Academi Heddwch Cymru (60 munud) NDM5420 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar sefydlu Academi Heddwch Cymru / Wales Peace Institute, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Hydref 2013.
Dogfennau Ategol
|
6 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM5421 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu gwella cysylltedd ledled Cymru wledig i sicrhau mynediad effeithiol i wasanaethau.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddechrau’r cynnig:
Yn cydnabod pwysigrwydd cysylltedd symudol a band eang i ddatblygu economaidd a chymdeithasol mewn ardaloedd gwledig ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar y system gynllunio er mwyn sicrhau bod rheolau cynllunio yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu seilwaith digidol.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi manteision cysylltiad band eang cyflym iawn i’r economi wledig, a hefyd yn nodi’r effeithiau economaidd negyddol y mae mannau gwan ar gyfer derbyn band eang ac oedi cyn cyflwyno band eang cyflym yn eu cael ar ardaloedd gwledig.
Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cynllun cenedlaethol yn cael ei sefydlu i gyflwyno signal symudol 4G ym mhob rhan o Gymru.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y rhwystrau penodol y mae pobl ifanc yn eu hwynebu mewn ardaloedd gwledig o ran cael addysg, hyfforddiant a chyflogaeth ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i asesu ffyrdd o wella cysylltedd trafnidiaeth yng nghefn gwlad er mwyn cynnig mwy o gyfleoedd i gael prentisiaethau.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod cysylltedd band eang gwael yn cyfyngu mynediad at wasanaethau bancio ar-lein mewn ardaloedd gwledig, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys archwiliad o strwythur banc cymunedol yn y cylch gorchwyl ar gyfer cynnal adolygiad pellach o fanc datblygu ar gyfer Cymru, er mwyn cynnal presenoldeb banciau lleol mewn cymunedau gwledig.
|
7 Dadl Plaid Cymru (60 munud) NDM5422 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod potensial sylweddol adnoddau naturiol Cymru ac yn credu y dylai rheolaeth lawn dros y defnydd ohonynt gael ei datganoli i’r Cynulliad Cenedlaethol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu popeth ar ôl ‘adnoddau naturiol Cymru’.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylid defnyddio adnoddau naturiol Cymru mewn modd sy’n gynaliadwy o ran yr amgylchedd a’r economi er budd tymor hir pobl Cymru.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi pwysigrwydd cynlluniau ynni cymunedol i fanteisio ar ein hadnoddau naturiol yng Nghymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu’r camau gweithredu y bydd yn eu cymryd i wella rhaglen Ynni’r Fro yn dilyn cyfres o argymhellion yn adroddiad Gwerthusiad Canol Tymor Ynni’r Fro.
Mae adroddiad Gwerthusiad Canol Tymor Ynni’r Fro ar gael yn:
http://wales.gov.uk/statistics-and-research/evaluation-ynnir-fro/?lang=cy
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu nad yw Llywodraeth Cymru wedi datblygu’r arbenigedd a’r gallu eto i weinyddu prosiectau ynni ar raddfa fawr.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cynnal ymchwiliad i sut y gellir datblygu buddion cymunedol prosiectau ynni;
b) cynnal adolygiad o ganiatáu a thrwyddedu prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fach; ac
c) gweithio gyda Llywodraeth y DU i edrych ar ffiniau dwr.
Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganiatáu rhagor o leoliaeth o ran defnyddio adnoddau naturiol mewn cymunedau, a rhoi’r un hawliau i bobl Cymru â’r hawliau sydd gan gymunedau yn Lloegr ar hyn o bryd o dan Ddeddf Lleoliaeth 2011.
Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod camreolaeth Llywodraeth Cymru ar adnoddau pren naturiol ystâd Coedwigaeth Cymru wedi:
a) caniatáu i ardaloedd mawr o goed llarwydd a rhywogaethau coed eraill fod wedi’u heintio o hyd â phytopthora ramorum; a
b) golygu bod clwstwr enfawr o goed llarwydd heintiedig heb eu torri a dwy flynedd o waith wedi cronni yn y rhaglen torri coed.
Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’r rhwystrau o ran hyrwyddo ac amddiffyn adnoddau naturiol Cymru a ddaeth yn sgîl y system gynllunio bresennol.
Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod penderfyniadau ynghylch taliadau CAP wedi rhoi ffermwyr Cymru o dan anfantais gystadleuol o’u cymharu â gwledydd datganoledig eraill y Deyrnas Unedig wrth iddynt reoli eu hadnoddau naturiol.
Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod camreoli adnoddau naturiol Cymru yn cyfrannu at ledaenu TB buchol ac yn effeithio ar fywyd gwyllt a chynhyrchu amaethyddol yng Nghymru. |
Cyfnod Pleidleisio
|
8 Dadl Fer (30 munud) NDM5388 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Pobl hyn, twyll a throseddau ar garreg y drws
|
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 11 Chwefror 2014